Cig Eidion Carreg
Cig Eidion Carreg
✓ Bwydo ar Borfa ✓ Braster Mewnol Cyfoethog ✓ O'r Giât i'r Plât
Methu â llwytho argaeledd casglu
Beth sy'n cael ei gynnwys ym mhob bocs?
Beth sy'n cael ei gynnwys ym mhob bocs?
Disgwyliwch rywfaint o amrywiaeth yn eich bocsys (mae’n cadw pethau’n ddiddorol!). Dyma syniad o beth i ddisgwyl:
Pecyn 2.5kg (12-17 o brydau).
- 2 Stecen (0.4kg)
Ac amrywiaeth o... - 0.8kg Rhost/Brisged
- 600g Briwgig
- 600g Cig Stiwio
- Pecyn o fyrgyrs
Pecyn 5kg (25-34 o brydau / Yn llenwi hanner dr4r rhewgell).
- 2 x 2 Stecen (0.8kg)
- 1.2kg Rhost/Brisged
- 2 x 600g Briwgig
- 1 Pecyn o 5 Byrgyrs (0.6kg)
- 2 x 600g Cig Stiwio
Pecyn 10kg (50-68 o brydau / Yn llenwi un drôr rhewgell).
- 4 Pecyn o 2 Stecen (1.6kg)
- 2.4kg Rhost/Brisged
- 4 x 600g Briwgig
- 2 Pecyn o 5 Byrgyrs (1.2kg)
- 4 x 600g Cig Stiwio
Pecyn 20kg (100-136 o brydau / Yn llenwi tri drôr rhewgell).
- 8 Pecyn o 2 Stecen (3.2kg)
- 4.8kg Rhost/Brisged
- 8 x 600g Briwgig
- 4 Pecyn o 5 Byrgyrs (2.4kg)
- 8 x 600g Cig Stiwio
Sut mae ein tanysgrifiad yn gweithio?
Sut mae ein tanysgrifiad yn gweithio?
- Dewiswch eich maint bwndel cig eidion neu gig oen.
- Dewiswch amlder eich danfoniad.
- Bydd taliad yn cael ei gymryd cyn y dyddiad danfon.
- Mwynhewch gig o borfa'r Penrhyn, wedi'i ddosbarthu'n gyfleus i'ch drws.
Gallwch oedi neu ei ganslo unrhyw bryd!
Pryd fyddwch chi'n derbyn eich bocs?
Bydd eich bocs yn cael ei ddosbarthu ar ddiwedd bob mis. Gallwch addasu eich dyddiad dosbarthu drwy gysylltu â ni.
Addewid Fferm Carreg
Addewid Fferm Carreg
Rydyn ni'n ymwybodol ei bod hi’n costio i drio unrhyw focs cig. Dyna pam mae pob archeb yn cynnwys Addewid Fferm Carreg:
Os na fyddwch yn hapus, fe nawn ad-dalu eich arian i gyfateb unrhyw bris archfarchnad!.
🌱 Rydym ni'n fferm deuluol fach, ac yn falch o bob toriad rydym yn ei anfon. Os nad yw rhywbeth yn iawn, byddwn yn ei wneud yn iawn - dyma ein addewid, dim lol!
Ad-daliadau yn seiliedig ar brisiau archfarchnadoedd tebyg.
Sut rydym ni'n Dosbarthu
Sut rydym ni'n Dosbarthu
Rydym yn pacio eich cig wedi'i rewi mewn bocs oer wedi'i inswleiddio, gyda digon o becynnau rhew.
Bydd yn cael ei ddosbarthu o fewn 24 awr ar eich dyddiad danfon dewisiol.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad i wneud yn siŵr eich bod adref ryw ben yn ystod y diwrnod hwnnw.
Yn syth at eich drws - yn barod ar gyfer yr oergell neu'r rhewgell.
Costau Danfon
£1 i Ogledd Cymru
£5 i weddill y DU
Darganfyddwch ein Bocs Cig Eidion Lleol: Cig premiwm wedi ei fagu ar borfa.
Bridiau Cynhenid
Mae ein stoc yn gymysgedd o fridiau brodorol, sy’n enwog am fraster mewngyhyrol a blas bendigedig.
Porfeydd Iach
Wedi'u magu ar borfeydd llawn maeth, mae ein cig mor naturiol â phosib.
Ailgysylltu
Gwybod yr hanes tu ôl i bob pryd i gyfoethogi pob profiad bwyta.
Mwynhewch goginio gyda’n Bocs Cig Eidion Safonol – detholiad o gig eidion premiwm wedi’i roi at ei gilydd yn grefftus, yn syth o’n fferm gynaliadwy. Mae pob bocs yn cynnig amrywiaeth o stêcs blasus, cig rhost tendr, a briwgig blasus – pob un yn cyfoethogi eich profiad o wledda.
Mae ein gwartheg wedi’u magu ar borfa faethlon, o fewn tafliad carreg o’r môr, sy’n cynhyrchu cig gyda marbling da ar ôl blynyddoedd o fridio. Mae ein hymrwymiad i arferion ffermio moesegol yn sicrhau bod pob toriad yn darparu blas bendigedig.
Gwerthfawrogwch gyfoeth ein porfeydd gyda’n Bocs Cig Eidion, a mwynhewch wir hanfod cig o’r ansawdd uchaf – wedi’i orffen ar y borfa.
Rhannu








Excellent quality
Ansawdd uchel iawn, cig blasus dros ben, wedi mwynhau yn arw. Diolch yn fawr Ianto mi fyddai'n archebu eto'n fuan.
Excellent quality and very tasty, enjoyed by all. Thank you Ianto, we will be purchasing again soon.
The best beef I have ever had
Lovely steak, the mince made beautiful burgers and I haven’t yet used the stewing steak or roast. All delivered in perfect condition. I love the fact that I know exactly where my meat is from and will definitely order again.
Fantastic quality beef! Steaks are delicious as are the joints, burgers and mince. Top quality!